You are on page 1of 12

Cynnwys

Tudalen
Beth yw Ffederasiwn? 1

Pa ysgolion a fydd yn rhan or Ffederasiwn? 1

Beth ywr agweddau allweddol ar Ffederasiwn? 1

Cefndir y cynnig dan sylw 1

Y weledigaeth a'r buddion 2

Trefniadau llywodraethu 3

Trefniadau arweinyddiaeth 4

Trefniadau derbyn 4

Y broses o Ffedereiddio 5

Dweud eich dweud 6

Cwestiynau cyffredin 7
Beth yw Ffederasiwn?
Mae Ffederasiwn yn gytundeb ffurol a chyfreithiol rhwng ysgolion i gydweithio mewn partneriaeth
ffurol. Pennir un Corff Llywodraethu, a hwnnw syn goruchwylio pob ysgol yn y ffederasiwn.

Pa ysgolion a fydd yn rhan or Ffederasiwn?


Mae Cyrff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Tongwynlais ac Ysgol Gynradd Coryton wedi
cyfarfod ac maen nhw wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i ffedereiddio. Mae Awdurdod Lleol
Caerdydd yn cefnogi hyn ac mae wedi rhoi cyngor yn rhan or cynnig hwn a arweinir gan lywodraethwyr.

Maer cynnig yn cynnwys sefydlu ffederasiwn ysgolion cymunedol dan Rheoliadau Ffedereiddio
Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (Offeryn Statudol Cymru 2014 Rhif. 1132 (W.111) o 5 Mawrth
2018 neu cyn gynted ag y bo modd yn dilyn cyawnir gweithdrefnau priodol.

Beth yw'r agweddau allweddol ar Ffederasiwn?


Caiff cyrff llywodraethur ddwy ysgol eu diddymu os ywr cynigion i sefydlu Ffederasiwn yn cael eu
rhoi ar waith, yn dilyn ymgynghoriad. Bydd un Corff Llywodraethu newydd yn disodlir Cyrff
Llywodraethu unigol a bydd gyfrifol am drosolwg strategol y ddwy ysgol yn y Ffederasiwn.

Bydd pob ysgol yn cadw ei henw, ei chategori, ei chyllideb a'i staff. Os caiff yr ysgolion eu
ffedereiddio, byddant yn gallu ystyried y manteision o rannu adnoddau. Nid ywr ddwy ysgol yn
cyfuno.

Bydd pob ysgol yn destun ei harolwg Estyn ei hun.

Cefndir y cynnig dan sylw


Maer ddwy ysgol o fewn milltir iw gilydd ac
maent wedi bod yn cydweithion
llwyddiannus ers mis Medi 2016.

Maer ddwy ysgol wedi bod yn rhannu


Pennaeth Gweithredol ac, yn ystod y cyfnod
hwn, rydym wedi gweld y buddion cadarnhaol
sy'n deillio o gydweithio gyda safonau'n
gwella a chyeoedd i rannu arfer gorau yn y
ddwy ysgol.

Mae hyn hefyd wedi galluogir ddwy ysgol i


feithrin y cysylltiadau a threfniadau rhannu
sydd ohoni megis ein Gofalwr, Cadeirydd
Llywodraethwyr a chysylltiadau gweinyddol.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 1


Gweledigaeth, buddion a manteision eraill
Y nod yw sbardunor gwaith o ddatblygu cynlluniau gwellar ysgolion unigol a gwellar canlyniadau a'r
ddarpariaeth ar gyfer holl ddisgyblion, a chydnabod y cyeoedd helaethaf posibl yn sgil trefniadau
ffedereiddio ffurol.

Bydd pob ysgol yn elw o gryfder y 'ffederasiwn' ond eto'n dal gafael yn ei hunaniaeth unigryw, ei
henw, ei gwisg ysgol, ethos ac ati.

Y buddion a geir o ddatblygu arferion ar y cyd o ran gwella'r safonau a'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion

Cye cyffrous i greu canolfan ragoriaeth ddeinamig ac arloesol o ran addysgu a dysgu sy'n
gwasanaethu dwy gymuned ysgol leol gyfagos

Rhannu arbenigedd a phroad proffesiynol yn y ddwy ysgol

Sicrwydd ariannol ar gyfer dwy ysgol un dosbarth mynediad yn erbyn cyllidebau a ddirprwyir syn
gostwng

Mwy o gyeoedd datblygu proffesiynol i'r holl staff

Denu rhagor o ddarpar staff ir ddwy ysgol

Ehangu cwmpas yr ysgolion o ran pontio i ysgol uwchradd cysylltiadau gydag Ysgol Uwchradd yr
Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Radur

Cye i rannu adnoddau, polisi a gweithdrefnau

Cye i arwain y ffordd gydar dull newydd hwn

Bydd ffedereiddio yn galluogir ddwy ysgol i adeiladu ar lwyddiant y bartneriaeth bresennol rhwng y
ddwy ysgol

2
Trefniadau Llywodraethu
Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn nodi na ddylai fod mewn corff
llywodraethu ffederal lai na 15 llywodraethwr a, na mwy na 27.

Trefniadau Llywodraethu Presennol


Dyma'r trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer y ddau gorff llywodraethu:

Math o Lywodraethwr Coryton Tongwynlais


Cymunedol 3 4*
Awdurdod Lleol 3 3
Rhiant 4 4
Pennaeth 1 1
Athro 1 1
Staff 1 1
Cyfanswm 13 14
* Swydd llywodraethwr cymunedol ychwanegol ar gyfer Tongwynlais gan fod yr ysgol mewn ardal cyngor cymuned.

Modelau Llywodraethu Posibl yn dilyn Ffedereiddio


Dyma'r opsiynau ar gyfer corff llywodraethu Ffederal fel y nodir yn y rheoliadau isod:

Math o Lywodraethwr Lleiafswm Uchafswm


Cymunedol 2 4
Awdurdod Lleol 2 4
Rhiant 1 ar gyfer pob ysgol 2 ar gyfer pob ysgol
Pennaeth 1 (neu 1 ar gyfer pob ysgol) 1 (neu 1 ar gyfer pob ysgol)
Athro 1 2
Staff 1 2

Y Corff Llywodraethu Ffederal a Gynigir

Math o Lywodraethwr
Cymunedol 5*
Awdurdod Lleol 4
Rhiant (hyd at 2 o bob ysgol) 4 (2 ar gyfer pob ysgol)
Pennaeth 1
Athro 2 (1 ar gyfer pob ysgol)
Staff 2 (1 ar gyfer pob ysgol)
Cyfanswm 18

* Mae hwn yn cynnwys swydd llywodraethwr cymunedol ychwanegol ar gyfer Tongwynlais gan fod yr ysgol mewn ardal cyngor cymuned.

Bydd pob llywodraethwr yn gwasanaethu am bedair blynedd, ac eithrior pennaeth a staff-lywodraethwyr


a fydd yn gwasanaethu am ddwy ynedd.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 3


Trefniadau arweinyddiaeth
Bydd y Corff Llywodraethu Ffederal yn rhoi arweiniad strategol ir ddwy ysgol.

Petair cynnig hwn i ffedereiddio yn mynd rhagddo, bydd y strwythur presennol yn cael ei ffuroli. Bydd
Pennaeth Gweithredol yn arwain y ddwy ysgol a bydd gan bob ysgol swydd Pennaeth Ysgol yn ogystal fel
y sefydlwyd yn 2016/17. Bydd y Corff Llywodraethu Ffederal yn gyfrifol am reoli perfformiad y Pennaeth
Gweithredol.

Cytunir ar yr uwch dim rheoli yn y ddwy ysgol, caiff ei ddatblygu a chaiff ei ffuroli, er mwyn sicrhau
cysondeb ac i gefnogi'r Pennaeth Gweithredol.

Trefniadau Derbyn
Ni fydd y trefniadau derbyn yn newid. Nid ywr ysgolion yn cyfuno. Byddant yn parhau i weithredu fel dwy
ysgol ar wahn gyda meini prawf derbyn unigol, fel y cytunir gydar awdurdod lleol. Bydd pob plentyn yn
parhau i fod yn ddisgybl cofrestredig mewn un ysgol o fewn y Ffederasiwn.

4
Y broses o Ffedereiddio
Er mwyn sefydlu Ffederasiwn, rhaid dilyn rhai camau penodol:

Cam 1: Ystyried potensial y Ffederasiwn


Cytundeb rhwng cyrff llywodraethur ddwy ysgol dan sylw ar Awdurdod Lleol eu bod yn dymuno
ystyried y dewisiadau o ran sefydlu Ffederasiwn
Cyd-greu cynnig ffurol a fydd yn destun ymgynghoriad gyda'r holl randdeiliaid
Rhoi gwybod i staff ac unrhyw ran ddeiliaid allweddol yn y ddwy ysgol am y broses a'r cynnydd
Gosod dyddiad posib ar gyfer rhoir Ffederasiwn ar waith

Cam 2: Paratoir Ymgynghoriad ar y Cynnig


Bydd y Cyrff Llywodraethu yn cwblhaur cynnig gyda chefnogaeth yr Awdurdod Lleol
Cyhoeddir ymgynghoriad ar y cynnig i'r holl randdeiliaid gan gynnwys disgyblion, staff, rhieni, y
gymuned leol a'r gymuned ehangach
Rhaid i gynnig cynnwys:
Y rhesymau dros ffedereiddio ar buddion ohono
Maint a chyfansoddiad Corff Llywodraethu Unigol
Trefniadau Staff Uwch
Derbyniadau
Dyddiad cau ar gyfer cywyno sylwadau
Dyddiad arfaethedig ar gyfer sefydlu'r ffederasiwn
Trefniadau ymgynghori

Cam 3: Ar l ir ymgynghoriad ddod i ben


Cyfarfod rhwng y Cyrff Llywodraethu ar Awdurdod i ystyried yr ymatebion ir ymgynghoriad
Paratoi adroddiad cryno ar gyfer pob Corff Llywodraethu i'w ystyried

Cam 4: Penderfynu a Gweithredu


Cyfarfod rhwng y Cyrff Llywodraethu ar Awdurdod Lleol i wneud y penderfyniad terfynol ar pun ai i
barhau sefydlu'r Ffederasiwn
Rhoi gwybod i randdeiliaid am y penderfyniad
Os ywn berthnasol, bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gydar Cyrff Llywodraethu i ffuro a
phenodi'r Corff Llywodraethu unigol

Cam 5: Datblygu
Cyfarfod rhwng y Corff Llywodraethu sengl i ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Ffederasiwn
Ystyried unrhyw strwythurau is-bwyllgor newydd, au ffuro lle bo angen
Cadarnhau Uwch Dimau Arweinyddiaeth
Adolygu systemau, polisau ac arferion

Cam 6: Symud Ymlaen


Sefydlu unrhyw bolisau, arferion a systemau newydd
Rhoi gweithdrefnau monitro a gwerthuso ar waith

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 5


Dweud eich dweud
Hoffair Cyrff Llywodraethu glywed barn cymaint o randdeiliaid phosib yn ystod y broses ymgynghori. Er
mwyn cynnig cymaint o gyeoedd phosib i randdeiliaid gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cynhelir y
digwyddiadau canlynol yn yr ysgolion.

Beth? Ymhle? Pryd? Ar gyfer pwy?

Sesiwn Holi ac Ateb Holiday Inn Express Dyddiad iw gadarnhaol Pob Rhanddeiliad
Tongwynlais (iw gadarnhau) ar ddechrau mis Medi

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Coryton Dydd Mawrth 19 Staff


Medi 2017
3:45pm tan 6pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Coryton Dydd Mawrth 19 Rhieni a


Medi 2017 rhanddeiliaid eraill
6pm tan 7:30pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Tongwynlais Dydd Mercher 20 Staff


Medi 2017
3:45pm tan 6pm

Digwyddiad Ffurfiol Ysgol Gynradd Tongwynlais Dydd Mercher 20 Rhieni a


Medi 2017 rhanddeiliaid eraill
6pm tan 7:30pm

Gallwch hefyd anfon sylwadau ysgrifenedig dros e-bost at Ruth Lock, Gwasanaethau Llywodraethwyr
Caerdydd: rlock@caerdydd.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 6 Hydref 2017.

6
Cwestiynau Cyffredin am Ffedereiddio

C1. Beth yw Ffedereiddio?


Mae ffedereiddio yn disgrio partneriaeth ffurol rhwng ysgolion (rhwng dwy a chwe ysgol) ac maen
gytundeb cyfreithiol a ffurol pan fo ysgolion yn rhannu corff llywodraethu unigol. Gall ysgolion mewn
ffederasiwn fod yn gymysgedd o ysgolion meithrin a gynhelir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac
ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, gall ysgolion ffydd ond ffedereiddio gydag ysgolion ffydd eraill.
Caiff y penderfyniad i ffedereiddio ei wneud gan un ai cyrff llywodraethur ysgolion dan sylw neu gan yr
Awdurdod Lleol. Bydd pob ysgol mewn ffederasiwn yn parhau i fod ar agor yn ei chymuned a bydd yn
cadw ei chyllideb, ei chymeriad, ei gwisg ysgol, ei threfniadau derbyn ai hethos ei hun. Bydd hefyd yn cael
ei harolygu gan Estyn yn unigol.
Maen bosib pennu pennaeth ym mhob ysgol yn y ffederasiwn, a/neu mae modd iddynt rannu un
pennaeth cyfrifoldeb y corff llywodraethu yw gwneud y penderfyniad hwnnw.
Nid oes un dull cywir o weithredu ffederasiwn. Caiff pob un ei deilwra i ddiwallu anghenion y gwahanol
ysgolion a chymunedau. Bydd ffederasiwn llwyddiannus yn galluogir plant i fanteisio ar gwricwlwm
ehangach i ymgyfoethogi eu proadau a chynnig addysg o safon uchel i helpu i wella eu cyawniad.

C2. Pam fod ffederasiwn yn ddewis ar gyfer eich ysgol chi?


Mae llawer o resymau pam fod ysgolion o bob maint a math yn dymuno ffedereiddio neu bod yr ALl yn dymuno
iddynt wneud. Rhannu adnoddau megis cyllidebau, athrawon ac arbenigedd addysgu, arweiniad ac adnoddau
ysgol a dysgu gan ei gilydd a rhannu arfer da yw rhai or ysgogiadau i ffedereiddio.
I ambell ysgol, gall cydweithion agosach mewn ffederasiwn olygu rhannu baich gwaith trwm ymhlith y staff
tran caniatu i ysgolion gynnig cwricwlwm eang syn cynnig dewisiadau go iawn i ddisgyblion, na allai ysgolion
llai llai o staff ei wneud.
Gall ffederasiwn hefyd gynnig cyeoedd gyrfa i staff na fyddai ar gael iddynt fel rheol, er enghraifft gweithio i
ysgol arall yn y ffederasiwn. Gall hyn helpu i recriwtio athrawon cymwys newydd da ir ysgol. Mae rhai ysgolion
hefyd yn wynebu anawsterau i recriwtio penaethiaid da ac mae ffederasiwn yn galluogi ysgolion i fabwysiadu
datrysiadau mwy creadigol i benodi arweinwyr.

C3. Pa fanteision y mae ffedereiddio yn ei gynnig i ddisgyblion?


Gall ffedereiddio ddod llawer o fuddion, ond bydd y rhain yn dibynnu ar ffocws a diben y ffederasiwn.
Yn gyffredinol, dylai ffederasiwn gynnig cyeoedd i ddisgyblion o bob oed a galluoedd i gwrdd a gweithio
fel un grp mawr, all fod yn hynod fuddiol i ddisgyblion hn. Mae buddion eraill yn cynnwys gallu cyrchu
addysgu arbennig, cyeoedd addysgol a chymdeithasol mwy cynaliadwy wedi eu strwythuron well,
chwaraeon tm, arbenigedd cwricwlwm lletach a dewis ehangach o weithgareddau allgyrsiol neu allan o'r
ysgol a chlybiau.

C4. Sut bydd ffedereiddio yn gweithio?


Bydd ffederasiynau yn gweithio mewn amryw ffyrdd. Bydd y modd y caiff ffederasiwn ei strwythuro ac y bydd yn
gweithredu ei bennu gan gorff llywodraethu a phenaethiaid neu bennaeth sengl. Y bobl hyn sydd yn y lle gorau i
sicrhau bod gweithrediadau a threfniadaur ffederasiwn yn cyfateb ag anghenion yr holl ysgolion dan sylw. Dylai
bob ffederasiwn fod chynllun gweithredu manwl a strwythur stafo a gytunwyd syn gosod y fframwaith ar
gyfer cynllunio mwy manwl a threfniadaeth a rheolaeth feunyddiol yr ysgolion.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 7


C5. A fydd llywodraethwyr neur ALl yn gwrando ar farn y rhieni pan fyddant yn
ymgynghori ar gynigion ffederasiwn?
Mae gofyn yn l y gyfraith ar i Lywodraethwyr ac ALl i gyrchu barn rhanddeiliaid ar y cynigion i
ffedereiddio. Y rhanddeiliaid yw rhieni, staff, undebau, disgyblion a phartneriaid eraill megis awdurdodau
esgobaethol. Gellir cyrchu barn mewn amryw ffyrdd, all gynnwys ymatebion ysgrifenedig, holiaduron,
sesiynau gwybodaeth a chyfarfodydd ffurol. Unwaith y cywynir yr holl sylwadau, rhaid ir corff
llywodraethu ystyried y pwyntiau gaiff eu codi a gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar fwyafrif y
pleidleisiau a gaiff eu cyfrif mewn cyfarfod o gorff llywodraethu. Mewn achos pan fo ALl yn sefydlu
ffederasiwn, bydd yn ystyried yr ymatebion gaiff eu derbyn a gwneud penderfyniad.

C6. Ai arbedion ariannol sydd wrth wraidd ffedereiddio?


Na. Maen ymwneud ag ysgolion yn cronni adnoddau i wella perfformiad, codi safonau cyrhaeddiad a
chyawni mwy ar gyfer y plant boed hynnyn darparu cyeoedd ac adnoddau na fyddai plant fel rheol yn
gallu eu cyrchu, neu gydariannu, er enghraifft, athro drama neu athrawon cyenwi.

C7. O ganlyniad i ffedereiddio, a fydd ein hysgol yn cael llai o arian gan yr ALl?
Na fydd. Nid yw ffedereiddio yn effeithio ar y modd y caiff cyllideb ysgol ei phennu dylai pob ysgol
mewn ffederasiwn barhau i gael ei chyllideb ei hun yn seiliedig ar niferoedd y disgyblion cofrestredig yn yr
ysgol ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill. Fodd bynnag, bydd ysgolion yn gallu cronni neu rannu eu
cyllidebau. Er enghraifft, pe bair ysgolion yn dymuno cyogi athro drama neu brynu neu uwchraddio
offer chwaraeon byddai pob un yn cyfrannu cyfran or gost ou cyllidebau.

Dylai corff llywodraethu ffederasiwn fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau strategol o ran y ffordd y
maent yn defnyddiou hadnoddau gan gynnwys cyllidebau, staff a chyeusterau. Bydd gofyn i bob ysgol
gadw cofnod archwilio clir a chyfrifon ar eu gwariant cyllidebol.

C8. Beth yw buddion ariannol ffederasiwn?


Gall ffederasiwn ehangu gallu ysgolion i sicrhau gwerth am arian a gwella safonau ar ddarpariaeth. Mae
rhai or buddion yn cynnwys: dull mwy cost-effeithiol o gynyddur cyeoedd ar gyfer addysgu arbenigol (os
bydd angen hynny); dewis cwricwlwm ehangach; ymestyn gweithgareddau cwricwlaidd ar l ysgol; rhannur
costau o brynu nwyddau a chyeusterau ar gyfer
clybiau ar l ysgol ac ati; prynu gyda golwg ar
sicrhau arbedion maint ac osgoi dyblygu; arbed
arian ar y cwricwlwm; cynllunio strategol ac amser
gweinyddol; y gallu i gronni arian er mwyn cynnig
cyogau uwch a recriwtio staff mwy proadol.

C9. A fydd fy ysgol yn colli ei


hunaniaeth o fewn Ffederasiwn?
Ni fydd ysgolion mewn ffederasiwn yn colli eu
hunaniaeth er y byddant yn rhannu corff
llywodraethu sengl. Mae'r ysgolion yn cadw eu
statws cyfreithiol ar wahn ac mae ganddynt eu
dyraniadau cyllidebol eu hunain a bydd pob ysgol
unigol yn cael ei harolygu gan ESTYN. Bydd yr
ysgolion hefyd yn aros yn eu cymuned ac yn cadw
eu cymeriad, eu henw, eu hethos a'u gwisg ysgol
eu hunain. Er bod pob ysgol yn cael ei chyllideb

8
unigol ei hun a bod yn rhaid iddi roi cyfrif amdani, mae cye, drwy'r corff llywodraethu sengl, i ddefnyddio
cyllidebau a rennir ymhlith yr ysgolion yn y ffederasiwn. Mae ffedereiddio yn gweithio ar y sail bod gan bob
ysgol ei chryfderau a'i manteision penodol ei hun, boed yn gyeusterau, yn staff neu'n adnoddau.

C10. Beth ywr gwahaniaethau rhwng ffedereiddio ysgolion a chyfuno ysgolion?


Os bydd dwy ysgol yn uno, gallant barhau'n agored yn eu cymuned ond byddant wedyn yn un ysgol aml-
sae, gydag un enw, un ethos, un gyllideb, un cymeriad ac un wisg ysgol. Un pennaeth fyddai gan yr ysgol
ac y mae'n debyg y ci staff eu diswyddo neu y byddai angen iddynt ailymgeisio am swyddi yn yr ysgol
newydd. Mewn ysgolion aml-sae, gallai'r ALl gau un o saeoedd yr ysgol a throsglwyddo'r disgyblion i'r
saeoedd eraill, heb fynd trwy unrhyw broses statudol o gyhoeddi cynigion.

Mewn Ffederasiwn, bydd yr ysgolion yn parhau'n agored yn eu cymunedau ond byddant hefyd yn cadw
eu hunaniaeth, eu henw, eu hethos, eu cymeriad, eu cyllideb a'u gwisg ysgol eu hunain. Byddai'r staff
hefyd yn cadw eu swyddi a hwyrach yn cael cyeoedd ehangach i ddatblygu yn broffesiynol drwy weithio
ym mhob un o ysgolion y ffederasiwn Gall penaethiaid aros yn eu swyddi hefyd, er mai un pennaeth yn
unig sydd gan rai ffederasiynau. Gellir cau ysgolion mewn ffederasiwn fel rhan o gynigion i ad-drefnu
ysgolion, ond byddai'n rhaid i'r ALl ddilyn proses statudol o gywyno cynigion er mwyn gwneud hynny.

C11. Beth ywr trefniadau Arolygu ar gyfer Ysgolion Ffederal?


Mae dogfen Estyn Pryd fydd yr arolwg ysgol nesaf yn cael ei gynnal? yn rhoi canllaw ar arolygu ysgolion
a ffedereiddiwyd. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn mynnu bod Estyn yn
arolygu ysgolion a gynhelir bob chwe blynedd ac yn cynhyrchu adroddiad unigol ar gyfer pob ysgol.
Byddai hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer yr ysgolion yn y ffederasiwn. Ni all Estyn symud arolwg ysgol yn
hwyrach na chwe blynedd ond gall gwblhau arolwg mewn modd syn golygu y caiff ysgolion mewn
ffederasiwn eu harolygu yn ystod yr un tymor, yn enwedig pan for un pennaeth gan yr ysgolion. Byddai
Estyn hefyd yn ystyried ceisiadau gan gorff llywodraethu neu ALl i arolygu ysgol yn ystod yr un tymor.
Byddai Estyn hefyd yn ceisio sicrhau fod y timoedd arolygu ar gyfer ysgolion y ffederasiwn yn rhannu
rhywfaint o'r un aelodau.

C12. Beth syn digwydd i staff mewn ffederasiwn? A fydd eu Hamodau Gwasanaeth
yn newid?
Mewn ffederasiwn, byddai pob aelod o staff wedi'i gyogi ar yr un amodau gwasanaeth 'r rhai
presennol a chan yr un cyogwr. Pwy bynnag yw'r cyogwr staff presennol fydd y cyogwr newydd o dan
y contract cyogaeth. Yn achos ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig
cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir, yr awdurdod lleol yw'r cyogwr o dan y contract cyogaeth. Y
corff llywodraethu yw'r cyogwr o dan y contract cyogaeth yn achos staff mewn ysgolion gwirfoddol a
gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.

Dylai gwaith cynllunio strategol ac ariannol ar y cyd olygu y gellir diogelu swyddi yn well mewn unrhyw
gyfnod o gywasgu cyfunol ac y gellir gwneud y defnydd gorau o staff arbenigol, gan gydnabod pob gan
bob aelod o staff cymorth ac addysgu sgiliau a gwybodaeth arbenigol. Byddai staff yn gallu dysgu oddi
wrth ei gilydd o fewn ymagwedd gydlynol er mwyn sicrhau cymunedau dysgu proffesiynol sy'n defnyddio
data a'r Model cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar welliannau i ysgolion sy'n cysylltu
blaenoriaethau cenedlaethol a chynlluniau datblygu eu hysgolion.

Gall corff llywodraethu'r ysgolion ffederal benodi aelodau newydd o staff i weithio ym mhob ysgol yn y
ffederasiwn. Gallai hyn gynnwys penodi pennaeth sengl i fod yn gyfrifol am yr holl ysgolion yn y
ffederasiwn, neu benodi Bwrsar neu berson sydd sgiliau rheolaeth ariannol a/neu sgiliau rheoli busnes, i
oruchwylio agweddau ar fusnes y ffederasiwn heblaw addysgu.

Ymgynghoriad ar Gynnig i Sefydlu Ffederasiwn 9


C13. A yw rhiant lywodraethwyr wedi eu hethol gan rieni eu hysgol yn unig neu gan
rieni pob ysgol yn y ffederasiwn?
Dylair cynnig i ffedereiddio nodi nifer y rhiant lywodraethwyr o bob ysgol, yn l y gyfraith syn golygu bod
yn rhaid i bob ysgol gael o leiaf un rhiant lywodraethwr wedi ei ethol gan y rhieni (neu wedi eu penodi gan
gorff llywodraethu os nad oes rhiant yn sefyll) yn yr ysgol honno ond dim mwy na dau riant lywodraethwr
fesul ysgol. Maen rhesymol felly, unwaith i benderfyniad ar nifer y rhiant lywodraethwr i bob ysgol gael ei
wneud, mai dim ond rhieni yr ysgol honno ddylai bleidleisio yn yr etholiadau rhiant lywodraethwr.
Os mair penderfyniad yw y dylai ysgol gael dau riant lywodraethwr bob un, ac nad oes rhieni ysgol
benodol yn sefyll neu dim ond un, gall y corff llywodraethu ffederal benodi rhiant lywodraethwyr yn unol
ag Atodlen 2 Rheoliadau Ffedereiddio 2014. Golyga hyn y gallai'r corff llywodraethu benodi rhiant disgybl
sydd wedi ei gofrestru yn yr ysgol; neu riant disgybl o ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu riant plentyn o
oed ysgol (neu o dan oed ysgol ar gyfer meithrinfa).

C14. eA ywr athrawon ar plant yn symud o un ysgol i un arall?


Efallai y bydd rhai cyeoedd i staff ysgolion symud rhwng saeoedd gan ddibynnu ar eu contractau. Fodd
bynnag, efallai y bydd cyeoedd i blant o ysgolion gwahanol gydweithio ar brojectau a thrwy
ddigwyddiadau arbennig, a allai gynnwys defnyddio technoleg, cyeusterau (fel offer chwaraeon a
labordai gwyddoniaeth) a deo gynadledda.

C15. A oes cyfyngiad amser ar ffederasiwn?


Dylid edrych ar ffederasiwn fel ymrwymiad hir dymor ac nid fel ateb dros dro. Bydd yr ALl neur cyrff
llywodraethu perthnasol wedi ystyried yn fanwl fuddion a pheryglon sefydlu ffederasiwn o safbwynt yr
effaith ar gyrhaeddiad plant a phobl ifanc. Byddai ffederasiwn yn rhoi cynlluniau strategol a gweithredol ar
waith er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad yr ysgolion. Bydd hynnyn golygu cynllunio yn y tymor
canol i hir. Serch hynny, mae Rheoliadau Ffedereiddio 2014 yn caniatu i ysgolion unigol adael ffederasiwn
ac i ffederasiwn gael ei diddymu.

Cylchlythyr Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru rhif: 011/2014

10

You might also like