You are on page 1of 2

Manylion yr Interniaeth

Cyflogwr Prifysgol Bangor – Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth

Teitl y swydd Disgwrs llechi: Sut mae pobl yn disgrifio ased diwylliannol

Dyddiad cau 16/04/2019

Cyflog £8.50 yr awr

30 awr yr wythnos am hyd at 4 wythnos, Mehefin / Gorffennaf 2019.


Cyfnod
Caiff amseroedd cynnal cyfarfodydd cynnydd gydag arweinydd y
project eu cytuno ar y cyd, ond bydd rhan fwyaf o amser yr
interniaeth yn cael ei dreulio'n hyblyg. Gall y rhan fwyaf (neu'r cyfan)
o'r gwaith gael ei wneud gartref, gyda'r cyfathrebu'n mynd ymlaen
trwy e-bost.

Swydd- Mae llechi yn amlwg yng Ngogledd Cymru; mae'n weledol iawn ym
mynyddoedd Eryri (a'r ardaloedd cyfagos), mae'n arbennig ac yn hynod o
ddisgrifiad ddeniadol i ymwelwyr a phobl leol. Mae'r diwydiant llechi, neu'r hyn sy'n
weddill ohono, wedi cael ei awgrymu fel safle treftadaeth y byd UNESCO
posibl, gan nodi ei arwyddocâd diwylliannol aruthrol. Mae'r project
presennol yn cyfrannu i'r ymdrechion hyn trwy dynnu sylw at amlygrwydd a
natur disgwrs yn gysylltiedig â llechi ar wefannau perthnasol.

Mae'r rhyngrwyd yn darparu llu o adnoddau, yn Gymraeg a Saesneg, sy'n


cynrychioli'r gwahanol ffyrdd y mae llechi yn effeithio ar ddiwylliant lleol.
Mae'r disgwrs lle gwneir hyn yn amrywio o arddull gymharol niwtral
Wicipedia (https://en.wikipedia.org/wiki/Slate_industry_in_Wales;
https://cy.wikipedia.org/wiki/Diadiant_llechi_Cymru) i ddisgwrs llawer mwy
emosiynol ac agweddol ar wefannau masnachol sydd wedi'u cynllunio i
ddenu twristiaeth (e.e., https://www.llechwedd-slate-caverns.co.uk;
https://amgueddfa.cymru/llechi/amdano).

Amcan y project hwn yw archwilio'r ystod o amrywiaeth o ddisgyrsiau'n


gysylltiedig â llechi ar y rhyngrwyd mewn ffordd fwy systematig, er mwyn
cael darlun cynhwysfawr o sut caiff arwyddocâd llechi i'r diwylliant yng
Ngogledd Cymru ei adlewyrchu ar-lein.

Mae cyfraniad yr intern yn cynnwys:


- Nodi gwefannau perthnasol trwy ymchwil trylwyr a systematig ar y
rhyngrwyd
- Tynnu data iaith a'u trosglwyddo i fformat addas (e.e. Excel)
- Dadansoddi'r data (gan ddilyn canllawiau cam wrth gam arweinydd
y project) gan ddefnyddio Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol
(Tenbrink, 2015). Mae hyn yn golygu nodi nodweddion ieithyddol yn
y data sy'n adlewyrchu cysyniadau a syniadau penodol, mewn
perthynas ag arwyddocâd diwylliannol.
- Trafod goblygiadau'r canlyniadau, a chyhoeddiadau posibl, gydag
arweinydd y project.

Gofynion 1. Dibynadwyedd a'r gallu i gwblhau projectau ar amser


2. Gallu gweithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol
personol 3. Systematig a meddwl yn glir
4. Mae sgiliau neu gefndir mewn dadansoddi disgwrs yn ddymunol
5. Mae cefndir mewn gwyddorau cymdeithasol neu ieithyddiaeth yn
ddymunol
6. Byddai gwybodaeth dda o'r Gymraeg (yn ogystal â Saesneg) yn cael ei
chroesawu, ond nid yw'n angenrheidiol ar gyfer y project. Mae'n bosibl
canolbwyntio ar wefannau Saesneg mewn achos o'r fath.

Sut i wneud Cewch ymgeisio am hyd at 3 interniaeth.


cais Gofynnir i chi e-bostio CV a llythyr cyflwyno, yn nodi pa interniaethau y mae
gennych ddiddordeb ynddynt (yn nhrefn blaenoriaeth) at:
targetconnect@bangor.ac.uk

Cynhelir y cyfweliadau: I'W GADARNHAU

Rhoddir gwybod i ymgeiswyr a roddir ar restr fer i gael cyfweliad a bydd


cyngor ar gael i unrhyw ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, unrhyw
addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, neu unrhyw addasiadau rhesymol
y bydd angen eu gwneud i'ch galluogi i gwblhau eich interniaeth.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth


Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2UW
ffôn:+44 (0) 1248 388521 | e-bost: targetconnect@bangor.ac.uk

You might also like