You are on page 1of 3

Manylion yr Interniaeth

Cyflogwr Prifysgol Bangor – Ysgol Seicoleg

Teitl y swydd Cynorthwyydd Ymchwil dros yr Haf yn y labordy Canolfan Ymchwil i


Weithgareddau a Bwyta (CAER) - darllenwch am ein hymchwil yma
http://caer.bangor.ac.uk/research.php.en

Dyddiad cau 16/04/2019

Cyflog £8.50 yr awr

30 awr yr wythnos am hyd at 4 wythnos, Mehefin / Gorffennaf 2019.


Cyfnod
10am - 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda rhywfaint o
hyblygrwydd fel bo'n addas i'r ymgeisydd.

Swydd- Byddwch yn rhan o dîm ymchwil amrywiol yn datblygu a gwerthuso ymyriad


ddisgrifiad bwyta'n iach cost isel mewn ysgolion cynradd lleol. Mae ein treialon parhaus
yn dangos y gall defnyddio ysgogiadau ymddygiadol helpu plant i fwyta
rhagor o ffrwythau, a llysiau o bosib. Mae hyn yn gyffrous iawn oherwydd
mae ein gwaith yn cyfrannu at wella maeth mewn plentyndod, sy'n her fawr
yng Nghymru a thu hwnt.

Mae eich dyletswyddau'n debygol o fod yn amrywiol ac yn cynnwys

 Cynorthwyo gyda threialon arbrofol a phrosesu data


 Paratoi papurau a deunyddiau eraill; cyfathrebu gyda'r tîm
 Tasgu cyffredinol swyddfa; cynorthwyo gyda chynllunio, gweinyddu

Mae'n eithaf posibl y bydd ein gwaith parhaus yn mynd â ni i gyfeiriadau


annisgwyl. Mae hyn yn rhan o brofiad gweinyddu ymchwil go iawn. Cewch
arweiniad drwy'r cyfan. Mae'n hwyl fel rheol ond weithiau mae gennym
amserlen dynn.

Fel rheol byddwn yn cyfarfod bob wythnos fel tîm i fonitro cynnydd a
dyrannu tasgau. Efallai y bydd ymweliadau dyddiol ag ysgolion os ydym yn
cynnal profion, ond bydd cyfnodau hir hefyd o waith swyddfa llai cyffrous.
Mae angen i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio ar eich pen eich hun yn
ogystal ag fel aelod o dîm.

Rydym yn labordy croesawgar, cynhwysol, rhyngwladol a chyfeillgar iawn.


Rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch gweithio yn y gymuned leol a
gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd. Rydym yn gobeithio darparu
desg i chi mewn swyddfa y byddwch yn ei rhannu gydag eraill. Mae gan
Brigantia lifft, toiledau hygyrch, a chegin(au) dymunol. Mae'n lle tawel yn yr
haf.

Gofynion Sgiliau cyfathrebu a threfnu da


personol Gallu gweithio ar eich pen eich hun a chynnal brwdfrydedd yn ystod gwneud
tasgau diflas (e.e. data codio)

Yn ddibynadwy a chydwybodol, yn aelod da o dîm ac yn gallu meddwl yn


annibynnol.

Sgiliau ymchwil, ysgrifennu, TG a gweinyddol da

Byddai bod yn gyfarwydd â SPSS ac Excel o fantais

Yn frwdfrydig ynghylch datblygu rhaglenni yn y gymuned leol

Mae gallu siarad Cymraeg a gyrru yn ddymunol ond nid yn hanfodol

Sut i wneud Cewch ymgeisio am hyd at 3 interniaeth.


cais Gofynnir i chi e-bostio CV a llythyr cyflwyno, yn nodi pa interniaethau y mae
gennych ddiddordeb ynddynt (yn nhrefn blaenoriaeth) at:
targetconnect@bangor.ac.uk

Cynhelir y cyfweliadau: I'W GADARNHAU

Rhoddir gwybod i ymgeiswyr a roddir ar restr fer i gael cyfweliad a bydd


cyngor ar gael i unrhyw ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, unrhyw
addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, neu unrhyw addasiadau rhesymol
y bydd angen eu gwneud i'ch galluogi i gwblhau eich interniaeth.
Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2UW
ffôn:+44 (0) 1248 388521 | e-bost: targetconnect@bangor.ac.uk

You might also like