Professional Documents
Culture Documents
Yn ystod y lleoliad, bydd croeso i'r myfyriwr hefyd gymryd rhan yng
ngweithgareddau dydd i ddydd yr ardd ochr yn ochr a'r tîm staff a
gwirfoddolwyr, e.e. gofalu am blanhigion, dyfrhau, lluosogi planhigion,
tocio, chwynnu, bwydo, rheoli plâu, defnyddio peiriannau (yn unol â
gofynion iechyd a diogelwch), rheoli digwyddiadau, cydlynu gwirfoddolwyr,
rheoli cyllidebau, codi arian etc.
Bydd yr intern yn gweithio yn swyddfa Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth ac
yn adeilad y labordy dysgu yng Ngardd Fotaneg y Brifysgol. Bydd gan y
myfyriwr fynediad llawn i'r llyfrgell, wifi, cyfleusterau'r gegin ac ymolchi yn
lleoliad hyfryd yr ardd ar lannau'r Fenai. Mae gan yr ardd faes parcio
pwrpasol ac mae ar lwybr bysiau rhwng prif gampws y Brifysgol a'r Ysgol
Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy. Bydd staff yr ardd yn rhoi sesiwn
gynefino iechyd a diogelwch i'r Intern Haf.