Teitl yr interniaeth Arbenigwr Datblygu GweBethau / Internet of Things
Development Guru Dyddiad dechrau a fwriedir Cyn gynted â phosibl ar ôl 20-5-19 Patrwm / dyddiau gwaith 10 wythnos / 350 awr disgwyliedig Hyblyg. I’w drafod â’r person sy’n cael eu penodi. Rhagweld y bydd yn gweithio ar brosiectau yn ystod oriau gwaith arferol ac yn gweithio tu hwnt i oriau gwaith arferol os bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal. Ymhle y lleolir yr intern? e.e. M-Sparc, Gaerwen, Ynys Mon. yn swyddfeydd y cwmni Cyflog £3,062.50 am y 10 wythnos (£8.75 yr awr) GweBethau: Disgrifiad o'r swydd Mae mynediad i’r GweBethau (Internet of Things) wedi ei osod yn M-SParc gyda’r gobaith o ledaenu LoRaWAN ar draws Ynys Môn. Dymuna M-SParc weithio â person â’r sgiliau a’r uchelgais i ddatblygu defnydd terfynol blaengar ar gyfer y dechnoleg hon, o fewn yr adeilad, meysydd parcio a’r ardaloedd cyfagos. Mae’n syniadau cychwynnol yn cynnwys: - Gosod synwyryddion yn ein maes parcio er mwyn inni fedru gweld faint o’r mannau parcio sy’n rhydd (gall rhain fod yn fannau gwefru Cerbydau Trydan). - Gosod synwyryddion yn ein biniau sbwriel mawr i nodi pryd y maent yn llawn AC ar ôl iddyn nhw gael eu gwagio. - Datblygu bwrdd ar gyfer dehongli’r data. - Gosod synwyryddion ar ddrysau allweddol yn yr adeilad sy’n rhoi gwybod i ni, y tîm gweithredol, os ydy’r drysau wedi eu gadael ar agor am fwy na 2 funud. - Datblygu system i bobl ddefnyddio M-SParc tu hwnt i oriau busnes trwy GweBethau neu gloeon sy’n gweithio trwy Wi-fi. Cloeon yn gyrru neges â chyfrinair i drefnydd cyfarfod 30 munud cyn y cyfarfod a bydd y cyfrinair hwnnw’n dod i ben 30 munud ar ôl y cyfarfod. Byddwn yn gwneud hyn oherwydd bod pobl yn awyddus i archebu lle yn M-SParc gyda’r nos ond dydyn ni ddim yn medru cael staff yma 24/7. - Gweithio â sectorau eraill, fel y sectorau amaeth, twristiaeth a llywodraeth leol i adnabod defnydd ar gyfer GweBethau a’u peilota gyda’r sectorau hynny. Bydd hyn yn digwydd trwy’r Rhaglen Blwyddyn y GweBethau (Year of IoT programme).
Hefyd, byddwch yn cymryd rhan yn rhaglen Blwyddyn y
GweBethau sy’n cychwyn ar y 25ain o Ebrill yn M-SParc. Mae 12 digwyddiad yn rhan o’r rhaglen hon gyda phob un yn edrych am gyfle newydd ar gyfer y dechnoleg neu yn addysgu am agwedd newydd ar ei chyfer. Bydd rhaid i chi fynychu’r sesiynau yma a diweddaru’r grŵp ar eich cynnydd fel rhan o’r interniaeth.
Yr uchelgais yw eich bod yn datblygu sgiliau wrth gwblhau’r rôl
hon ac y byddwch yn dymuno cychwyn eich busnes eich hun, wedi ei sefydlu yn y sector hon, ar ôl cael eich ysbrydoli gan y syniadau a’r dechnoleg a ddatblygir ar yr interniaeth hon. Byddai M-SParc yn cadw’r IP ar y syniadau a chadw’r hawliau, petaech yn dymuno creu Menter ar y Cyd os oes achos busnes hyfyw yn dod i’r golwg. Gofynion hanfodol ar gyfer y Bydd gofyn i chi weithio gyda Thîm M-SParc yn hytrach nag ar swydd e.e. pwnc gradd, eich pen eich hun. Byddwch yn llysgennad i M-SParc felly mae’n sgiliau penodol ac ati rhaid i chi gael yr agwedd gywir, bod yn agored, yn agos-atoch ac yn llawn egni. Chwiliwch am y gwaith, byddwch yn bositif! Byddwch yn hyderus yn eich gallu eich hun ac manteisiwch ar bob cyfle. Efallai y bydd gofyn i chi fynychu sioeau neu sioeau teithiol er mwyn arddangos y gwaith ac i rannu’r technegau â chynulleidfa. Eich sgiliau allweddol fyddai Technoleg Gwybodaeth, rhaglennu a chaledwedd ac electroneg. Dydy’r sgiliau yma ddim yn gorfod bod yn rhan o’ch cwrs. Gyda golwg ar dyfu’r prosiect yn y dyfodol, byddai sgiliau busnes yn ddymunol. Mae’n hanfodol i chi ddefnyddio’ch gliniadur OND os yw hyn yn broblem, byddwn yn ceisio cael gafael ar un ar gyfer y prosiect hwn. Gofynion dymunol e.e. gallu Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn ond ddim yn siarad Cymraeg hanfodol. Sut i ymgeisio Gyrrwch CV a llythyr eglurhaol (cover letter) at Emily Roberts emily@m-sparc.com Dyddiad cau ar gyfer Dydd Llun 13 Mai 1pm ceisiadau