Professional Documents
Culture Documents
Disgrifiad o'r swydd Yn ddiweddar, mae M-SParc wedi sefydlu Ardal Gwneud (Ffiws)
mewn labordy mewn partneriaeth â Menter Mon a rydym yn
edrych am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i’w arwain.
- Byddwch yn cynnal sesiynau sefydlu yn y gofod, gan
gynnwys brîff Iechyd a Diogelwch a dangos sut mae pob
darn o offer yn gweithio i’r defnyddwyr.
- Goruchwylio’r rheiny sy’n dysgu sut i ddefnyddio’r gofod.
- Rheoli eich amser eich hun, gan gynnwys trefnu
digwyddiadau a chysylltu â phobl sy’n dymuno
defnyddio’r gofod.
- Sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gofod, helpu i
farchnata a chadw trac ar unrhyw ‘astudiaethau achos’
sy’n dod ohono e.e. os oes rhywun yn cychwyn busnes
wedi ei sefydlu ar y gwaith wnaethon nhw yn y gofod.
- Datblygu dodrefn pwrpasol a darnau marchnata i M-
SParc yn y gofod.
Byddwn yn rhoi sesiwn anwytho i chi yn y gofod, ond mae’n
rhaid i’r unigolyn fod yn ddysgwr sydyn, a mentro ble mae’n
nhw’n gweld hynny’n gall.
Gofynion hanfodol ar gyfer y Bydd gofyn i chi weithio gyda Thîm M-SParc yn hytrach nag ar
swydd e.e. pwnc gradd, eich pen eich hun. Byddwch yn llysgennad i M-SParc felly mae’n
sgiliau penodol ac ati rhaid i chi gael yr agwedd gywir, bod yn agored, yn agos-atoch ac
yn llawn egni. Chwiliwch am y gwaith, byddwch yn bositif!
Byddwch yn hyderus yn eich gallu eich hun ac manteisiwch ar
bob cyfle.
Efallai y bydd gofyn i chi fynychu sioeau neu sioeau teithiol er
mwyn arddangos y gwaith ac i rannu’r technegau â chynulleidfa.
Gofynion dymunol e.e. gallu Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn ond ddim yn
siarad Cymraeg hanfodol.
Sut i ymgeisio Gyrrwch CV a llythyr eglurhaol (cover letter) at Emily Roberts
emily@m-sparc.com
Dyddiad cau ar gyfer Dydd Llun 13 Mai 1pm
ceisiadau