Professional Documents
Culture Documents
Patrwm Gweithio Arfaethedig: Patrymau gweithio hyblyg ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Mai 2019, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i profi@bangor.ac.uk
Disgrifiad:
Mae’r Prosiect Profi yn meithrin hyder ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd ymysg pobl ifanc sydd mewn perygl o
beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r prosiect yn gweithio gydag ysgolion lleol, myfyrwyr
Prifysgol Bangor, busnesau a sefydliadau lleol. Mae Profi yn rhaglen ddysgu ymarferol lle mae'r cyfranogwyr yn
gweithio ar faterion go iawn sy’n ymwneud â phobl ifanc felly roeddem eisiau defnyddio’r dull hwn ar gyfer yr
interniaeth. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n frwd dros weithio gyda phobl eraill, datrys problemau ac sy'n
barod i weithio’n greadigol.
Mae angen intern i weithio yn y Prosiect Profi i gefnogi Cydlynydd y Prosiect i godi arian ar gyfer y prosiect ar gyfer
blwyddyn nesaf y prosiect. Byddai angen i'r intern ymchwilio i fusnesau a sefydliadau lleol a sefydlu ffrydiau ariannu
posibl gyda chymorth cydlynydd y prosiect a byddai angen dilyn y ffrydiau i ddatblygu perthnasoedd a
phartneriaethau ariannu.
Yn y gorffennol, mae’r prosiect wedi trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer Rhaglen Profi, bydd angen i'r intern
drefnu digwyddiad codi arian ar gyfer mis Medi i ddathlu gweithgareddau’r prosiect a’r llwyddiannau hyd yma.
Dylai'r digwyddiad ddenu partneriaid y prosiect, darpar arianwyr, staff y Brifysgol, staff ysgol Profi, a'r gymuned leol.
Rôl yr Intern:
Bydd yr intern yn helpu cydlynydd y prosiect i godi arian drwy ymchwilio i fusnesau a sefydliadau lleol; ymchwilio i
grantiau addysgol; cysylltu â myfyrwyr eraill ac aelodau o'r staff i greu astudiaethau achos ar gyfer y prosiect i'w
rhannu gyda darparu arianwyr; creu dogfen yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymchwil a chefnogi cydlynydd y prosiect i
ddatblygu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd yr intern yn cynorthwyo i gynllunio a chynnal digwyddiad codi arian ym mis Medi 2019; yn cefnogi'r gwaith o
hyrwyddo’r digwyddiad a gwerthu tocynnau; yn casglu unrhyw eitemau ar gyfer yr ocsiwn os oes angen; yn trefnu
adloniant ar gyfer y digwyddiad ac yn cynorthwyo i reoli manylion y digwyddiad.
Profiad o godi arian, gan ganolbwyntio ar gwmnïau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus
Profiad o wneud ymchwil a gweithio’n annibynnol, yn ogystal â gweithio mewn tîm
Interniaeth Haf Prosiect Profi y Ganolfan Ehangu Mynediad 2018-19
Profiad o ddatblygu partneriaethau gyda busnesau a sefydliadau newydd
Datblygu sgiliau cyfathrebu wrth weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Datblygu sgiliau trefnu
Cyfleusterau/amgylchedd gwaith:
Bydd yn gweithio o'r Ganolfan Ehangu Mynediad a swyddfa Prosiect Profi ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Bydd
angen mynychu gwahanol ddigwyddiadau yn ystod cyfnod yr interniaeth.
Manylion y person:
Gofynion Iaith:
Cymraeg
Siarad 1 (dim)
Darllen/Ysgrifennu 1 (dim)
Saesneg
Siarad 4 (rhugl)
Darllen/Ysgrifennu 4 (rhagorol)