Professional Documents
Culture Documents
Patrwm Gweithio Arfaethedig: Patrymau gweithio hyblyg ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24 Mai 2019, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i profi@bangor.ac.uk
Disgrifiad:
Mae’r Prosiect Profi yn meithrin hyder ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd ymysg pobl ifanc sydd mewn perygl o
beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r prosiect yn gweithio gydag ysgolion lleol, myfyrwyr
Prifysgol Bangor, busnesau a sefydliadau lleol. Mae Profi yn rhaglen ddysgu ymarferol lle mae'r cyfranogwyr yn
gweithio ar faterion go iawn sy’n ymwneud â phobl ifanc felly roeddem eisiau defnyddio’r dull hwn ar gyfer yr
interniaeth. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n frwd dros weithio gyda phobl eraill, datrys problemau ac sy'n
barod i weithio’n greadigol.
Mae angen intern yn y Prosiect Profi i helpu i ddatblygu ymgyrch recriwtio newydd i roi mwy o gefnogaeth i’r
prosiect, bydd yr intern yn ymchwilio i'r syniad o greu ymgyrch recriwtio newydd i gofrestru Myfyrwyr i fentora pobl
sy’n cymryd rhan yn y Prosiect Profi, gan dalu sylw i bob llwybr, er enghraifft gwirfoddoli, gwaith am dâl.
Bydd angen i'r intern gysylltu â gwirfoddolwyr a hwyluswyr yn y gorffennol i weld beth yw manteision ac
anfanteision y prosiect er mwyn datblygu system newydd a gwell i recriwtio, i sicrhau bod y prosiect yn cynnig
cyfleoedd da, profiad ac ansawdd gwasanaeth i bawb sy’n cymryd rhan.
Bydd y myfyriwr hefyd yn ymchwilio i’r syniad o ddatblygu'r pecyn hyfforddi, a bydd yn trefnu'r hyfforddiant wrth i’r
prosiect recriwtio.
Rôl yr Intern:
Ymchwilio i syniadau ar gyfer recriwtio; cysylltu â gwirfoddolwyr y prosiect yn y gorffennol er mwyn cael adborth a
dealltwriaeth o'r broses; creu llinell amser ar gyfer recriwtio gan ystyried pwysau amser; ymchwilio i dechnegau
mentorau a choetsio; ymchwilio i sefydliadau lleol sy'n cefnogi digwyddiadau mewn ysgolion er enghraifft Syniadau
Mawr Cymru; rhwydweithio â sefydliadau a busnesau a gweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr ac UMCB.
Cyfleusterau/amgylchedd gwaith:
Bydd yn gweithio o'r Ganolfan Ehangu Mynediad a swyddfa Prosiect Profi ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Bydd
angen mynychu gwahanol ddigwyddiadau yn ystod cyfnod yr interniaeth.
Manylion y person:
Gofynion Iaith:
Cymraeg
Siarad 1 (dim)
Darllen/Ysgrifennu 1 (dim)
Saesneg
Siarad 4 (rhugl)
Darllen/Ysgrifennu 4 (rhagorol)