You are on page 1of 2

Manyleb Interniaeth

Teitl y project:

Y Cyfryngau Digidol: Datblygu Fframwaith Cyfryngau ar gyfer Llwyfan Addysgol Modern

Ysgol/Adran:

Ysgol Gwyddorau Iechyd, NWORTH

Enw’r person cyswllt yn yr ysgol/adran:

Christopher Woods

Cyfnod yr interniaeth:

Haf 2019 (Mehefin / Gorffennaf / Awst) - gellir ei drafod

Hyd yr Interniaeth:

150 awr

Patrwm Gweithio Tebygol:

1 diwrnod penodol yr wythnos a gweddill yr amser yn gweithio'n hyblyg yn ôl dewis yr intern a


gofynion y project. Cytunir ar amseroedd cyfarfod a chyfathrebir trwy e-bost.

Disgrifiad

Mae Cyfadran Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol Cymru Gyfan (AWFDCP - 'Y Gyfadran') yn
fenter sy'n cael ei llywio gan bolisi, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Gyfadran yn ceisio
darparu llwyfan i gyfoethogi'r amgylchedd hyfforddi a gallu, lles ac ymgysylltiad gweithwyr Gofal
Deintyddol Proffesiynol (DCP) ledled Cymru.

Mae'r Gyfadran wedi'i lleoli yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r sefyllfa
unigryw hon yn galluogi i'r Gyfadran fanteisio ar y cynnig addysgol eang y mae'r Ysgol yn ei ddarparu,
gan wella natur gyfannol ein cyfleoedd hyfforddi. O ganlyniad, gallwn fanteisio ar y dreftadaeth
gyfoethog sydd gan yr Ysgol o ran hyfforddi nyrsys a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill ym
maes iechyd. Bydd hyn yn cynyddu hyblygrwydd a chyfleoedd rhyngbroffesiynol hyfforddiant
Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol.

Mae'r Gyfadran ar hyn o bryd yn datblygu cyfres o raglenni addysgol ar gyfer Gweithwyr Gofal
Deintyddol Proffesiynol. Mae'r rhain yn amrywio o gymwysterau llawn, wedi'u dilysu gan y brifysgol i
gyrsiau byr ar y we i Weithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol a gweithwyr proffesiynol iechyd
cysylltiedig. Mae'r cyrsiau byr hyn sydd ar ffurf Cwrs Agored Enfawr Ar-lein (CAEEA neu MOOC yn
Saesneg), yn eu hanfod yn galluogi i'r cyrsiau fod â gwahanol raddfeydd gan ddefnyddio llwyfannau
digidol.

Swyddogaeth yr intern

 Datblygu fframwaith cyfryngau Cwrs Agored Enfawr Ar-lein sy'n addas ar gyfer rhaglenni
cyfredol y Gyfadran a rhai'r dyfodol.
 Cyn-gynhyrchu, recordio ac ôl-gynhyrchu cyfweliadau fformat podlediadau a chyfryngau
gweledol gan arweinwyr cyrsiau ac arbenigwyr pwnc.
 Cysylltu â rhanddeiliaid a chyfranwyr.
 Cyfrannu at syniadau, yn benodol o ran defnyddio sgiliau/technegau cyfryngau.
Manteision i’r intern

 Cyfle i adeiladu portffolio personol o gyfryngau digidol masnachol


 Gweithio mewn amgylchedd hyblyg gyda'r cyfle i fod yn greadigol
 Datblygu sgiliau proffesiynol, megis rheoli project a chyflwyno cynnyrch
 Bod yn arbenigwr pwnc mewn tîm amlddisgyblaethol - h.y. lefel uchel o ryddid creadigol
personol
 Rhwydweithio â'r ymgynghorwyr dylunio cyfredol yn y Gyfadran - asiantaeth greadigol fawr
ym Mae Colwyn
 Gweithio mewn tîm cefnogol brwdfrydig a fydd yn sicrhau bod modd i'r intern gyflawni
amcanion yr interniaeth a'u bod yn fuddiol iddo.

Cyfleusterau/amgylchedd gwaith

Mae natur amrywiol y project yn golygu na fydd disgwyl i'r intern weithio mewn un lleoliad sefydlog
am yr interniaeth gyfan. Bydd disgwyl i'r intern ddefnyddio'r offer a'r cyfleusterau sydd ar gael i
fyfyrwyr cyfryngau israddedig ac ôl-raddedig fel y bo'n briodol. Bydd yr intern hefyd yn cael gofod
swyddfa pwrpasol yn adeilad NWORTH, Safle'r Normal.

Gofynion Personol

Meini prawf Hanfodol /


Dymunol
Myfyriwr cyfredol Astudiaethau'r Cyfryngau (neu bwnc cysylltiedig) ym Hanfodol
Mhrifysgol Bangor yn yr ail, drydedd neu bedwaredd flwyddyn
Yn gallu creu cysyniadau creadigol priodol ar gyfer cais penodol Hanfodol
Yn hyderus wrth ddefnyddio offer recordio ac ôl-brosesu cyfryngau digidol Hanfodol
Gallu gweithio'n annibynnol Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu ardderchog: wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac e-bost Hanfodol
Yn medru rhoi enghreifftiau o brojectau cyfryngau digidol wedi'u cyflwyno i Hanfodol
fanyleb
Profiad o gynhyrchu cynnwys sain/podlediad Dymunol
Profiad o gynhyrchu cyfryngau gweledol Dymunol
Profiad o greu adnoddau addysgol Dymunol
Y gallu i addysgu a hyfforddi aelodau eraill o dîm y project Dymunol

Gofynion Iaith

Y Gymraeg

Siarad 1

Darllen/Ysgrifennu 1

Saesneg

Siarad 4

Darllen/Ysgrifennu 4

You might also like